Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Preswylfeydd y Brifysgol

I lawer ohonoch, bydd mynd i'r Brifysgol yn golygu byw oddi cartref am y tro cyntaf.

Mae preswylfeydd y Brifysgol yn rhoi cyfle i gyfarfod a dod i adnabod myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, yn astudio amrediad o bynciau gwahanol.

Rydym yn sylweddoli bod ymgartrefu'n gyflym a gwneud ffrindiau newydd yn gam cyntaf pwysig yn eich bywyd yn y brifysgol. Ein cyngor i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig yw y dylent fyw ym mhreswylfeydd y Brifysgol yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio, naill ai mewn Tŷ Myfyrwyr neu Neuadd Breswyl.

Rydym yn siŵr y bydd bron unrhyw un â phrofiad o fywyd myfyriwr yn dweud wrthych mai'r rheini y byddwch yn cyfarfod â nhw yn eich preswylfeydd yn ystod y dyddiau cyntaf, os nad yr oriau cyntaf, ar ôl i chi gyrraedd fydd y ffrindiau cyntaf y dewch ar eu traws yn y brifysgol. Wedi'r cyfan, nid chi yw'r unig un fydd yn newydd ac yn awyddus i ganfod ffrindiau!

Mae'r Brifysgol yn buddsoddi'n barhaus yn ei phreswylfeydd i fyfyrwyr ac yn diogelu'r buddsoddiad hwn â rhaglenni cynnal a chadw blynyddol helaeth. Rhoddwyd sylw penodol, wrth gynllunio'r preswylfeydd, i farn y myfyrwyr eu hunain. Fel y gwelwch, mae amrywiaeth o breswylfeydd, llawer ag ystafelloedd cawod en-suite ym mhob ystafell wely astudio unigol.

Yn gyffredinol, rydym o'r farn y gall Prifysgol Caerdydd gynnig amrywiaeth o breswylfeydd o safon dda.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nghaerdydd a dymunwn pob llwyddiant i chi yn eich bywyd yn y brifysgol.

Advertise with us