Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
UCM yw un o'r sefydliadau myfyrwyr mwyaf yn y byd ac mae'n cynrychioli buddiannau tua phum miliwn o fyfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yn cynnig mwy na cherdyn gostyngiad.
- Mae'n sefydliad aelodaeth gwirfoddol sy'n cynnwys dros 750 o sefydliadau cynrychioli myfyrwyr lleol mewn colegau a phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.
- Gelwir pob un o'r rhain yn aelod cyfansoddol ac maent yn talu ffi danysgrifio flynyddol i UCM.
- Defnyddir yr arian a godir o ffioedd cysylltiedig i ariannu ymgyrchoedd a gweithgareddau'r Undeb Cenedlaethol, gan gynnwys y broses o redeg yr holl strwythurau democrataidd y mae hawl gan yr undeb i gymryd rhan ynddynt.
Cerdyn Democratiaeth UCM
Pan fyddwch yn casglu eich Cerdyn Adnabod gan y Brifysgol, , byddwch yn sylwi bod logo UCM arno. Y rheswm dros hyn yw mai eich Cerdyn Adnabod yw eich cerdyn democratiaeth UCM hefyd, sy'n gadael i chi bleidleisio yn etholiadau UCM ac etholiadau Undeb y Myfyrwyr. Mae hefyd yn dangos bod hawl gennych i ddefnyddio adeilad a gwasanaethau'r Undeb.
Cerdyn Gostyngiad UCM 'EXTRA'
UCM 'Extra' yw'r cerdyn gostyngiad premiwm i fyfyrwyr. Mae'n cynnwys llawer o gynigion a thalebau i arbed arian i chi, felly bydd y cerdyn UCM 'Extra' yn eich helpu i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr.
Mae ystod o ostyngiadau unigryw, , cynigion a chystadlaethau ar gael i aelodau UCM 'Extra'. MCaiff rhagor o gynigion eu hychwanegu bob wythnos i'r tudalennau gostyngiadau, felly edrychwch ar www.nusextra.org yn rheolaidd.
Mae UCM 'Extra' yn arbed arian i chi ar docynnau sinema, dillad, CDs a DVDs, bwyd a llawer mwy! Ac nid gostyngiadau yw'r unig bethau sydd ar gael. Drwy gydol y flwyddyn cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau "amhrisiadwy", tiwtorialau eich breuddwydion a chewch hyd yn oed ambell i gân i'w llwytho i lawr.
Dim ond £10 yw pris UCM 'Extra' a gallwch archebu eich cerdyn heddiw drwy fynd i nusextra.org. Bydd y cerdyn yn barod i'w gasglu pan fyddwch yn cyrraedd yng Nghaerdydd sy'n golygu y gallwch fanteisio ar y rhan fwyaf o'r gostyngiadau'n syth!



