Caerdydd
Mae llawer i'ch cadw'n brysur yng Nghaerdydd pan fydd angen saib o astudio arnoch
Siopa
Mae gan ganolfan siopa Dewi Sant dros 1.4 miliwn o droedfeddi sgwâr o siopau, bwytai a chaffis. Yn ogystal, mae gan Gaerdydd nifer o arcedau o'r Oes Edwardaidd ac Oes Fictoria sy'n cynnig siopau, caffis a 'boutiques' unigryw a diddorol. .
Mae Marchnad Caerdydd, sydd wedi bod yn masnachu ers y 1700au, wedi'i lleoli mewn strwythur trawiadol o Oes Fictoria. Cewch yno amrywiaeth o stondinau a chymeriadau lleol Caerdydd! Mae Marchnadoedd yn y Rhath a Glan yr Afon ar ddydd Sadwrn a dydd Sul sy'n lleoedd gwych i gael llysiau organig a chig am bris rhesymol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn: riversidemarket.org.uk.
Diwrnodau Llawn Hwyl
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Wrafftio dŵr gwyn, sgramblo ceunentydd, caiacio a chanŵio.
Ynys y Barri
llain hir o draeth braf, arcedau difyrion, siopau, a hyd yn oed ei pharc thema ei hun! Gwybodaeth am drenau.
Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd
pwll nofio maint Olympaidd ar gyfer nofwyr difrifol a phwll hamdden gwych â llithrennau, cafnau ac afon ddiog.
Pledu paent Delta Force
ar gyrion Caerdydd. Gofynnwch am ostyngiadau os ydych yn mynd â grŵp mawr.
Beth am ychydig o ddiwylliant?
Caerdydd yn ddiamau yw prifddinas diwylliant Cymru, a gan iddi gyrraedd rownd derfynol Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008, gallwn ddweud ei bod yn un o ganolfannau diwylliannol Ewrop hefyd.
Amgueddfeydd ac Orielau
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.museumwales.ac.uk Third Floor Gallery www.thirdfloorgallery.com Yr Eglwys Norwyaidd www.norwegianchurchcardiff.com Oriel Turner House www.ffotogallery.orgTheatrau
Canolfan Mileniwm Cymru
wmc.org.uk
Theatr Newydd
newtheatrecardiff.co.uk/english/index.asp



