Ymuno â Chlybiau a Chymdeithasau
Mae mwy i fywyd yn y Brifysgol nag astudio am 24 awr y dydd.
Mae'n amser gwych i ddechrau hobi newydd, cyfarfod â phobl sy'n hoffi'r un pethau â chi ac yn gyffredinol ddod yn unigolyn cyflawn sy'n arbennig ym mhob ffordd.
Gyda thros 150 o gymdeithasau, 60 o glybiau chwaraeon a phapur newydd, cylchgrawn, gorsaf radio a sianel deledu ar-lein a gaiff oll eu rhedeg gan fyfyrwyr, mae'n wir fod rhywbeth at ddant pawb yng Nghaerdydd. Peidiwch â gwastraffu eich amser yn y Brifysgol yn gwylio'r teledu yn ystod y dydd ac yn yfed te, cymerwch ran – wnewch chi ddim difaru!
Ffair y Cymdeithasau
Dydd Llun 26ain a dydd Mawrth 27ain Medi
10am – 5pm
Ffair Chwaraeon
Dydd Mercher 28ain Med
10am – 5pm
Mae dwy ffordd y gallwch ymuno â chlybiau a chymdeithasau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymuno Ar-lein
Os ydych eisoes yn gwybod eich bod am chwarae pêl-droed, dod yn aelod brwd o Gymdeithas Harry Potter neu ysgrifennu ar gyfer y papur newydd i fyfyrwyr, gallwch ymuno ar-lein nawr.
Ymuno yn Ffeiriau'r Glas
Fel arall, gan fod hyn oll ychydig yn newydd ac efallai nad ydych wedi penderfynu eto pa glybiau neu gymdeithasau yr hoffech ymuno â nhw, ewch draw i'r ffeiri glas canlynol i gyfarfod â'r myfyrwyr sy'n eu rhedeg. Bydd cymdeithasau gwahanol yn y ddwy ffair felly mae'n werth galw heibio ar y ddau ddiwrnod er mwyn sicrhau na fyddwch yn colli cyfle!



