Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Gwirfoddoli yn y Gymuned

Ewch ati i wirfoddoli a helpu'r rhai sy'n llai ffodus na chi ar un o fwy na 35 o brosiectau lleol gwahanol

Gwnewch wahaniaeth yng Nghaerdydd, sicrhewch brofiad gwaith i ddatblygu eich CV a chwrdd â phobl newydd yn y brifysgol.

Ffair Wirfoddoli

Dydd Llun 3ydd Hydref, 5.30pm – 8pm
Neuadd Fawr, adeilad Undeb y Myfyrwyr

Gallwch sgwrsio â’r cydlynwyr a dysgu am bob prosiect.

SVC logo

SVC

Dewch i’n swyddfa ar drydydd llawr yr Undeb,
Gwefan svcardiff.org
E-bost: svc@cardiff.ac.uk
Ffôn: 029 2078 1510

Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd yn un o’r grwpiau gwirfoddoli mwyaf i fyfyrwyr ym Mhrydain. Ef hefyd oedd y sefydliad gwirfoddoli cyntaf i fyfyrwyr yn y DU i ennill y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae'r prosiectau a gynigir ganddo yn amrywio o feysydd

  • Addysg
  • Iechyd Meddwl
  • Plant ac Oedolion ag Anableddau Dysgu

…ac mae bob amser yn barod i gyflwyno prosiectau newydd mewn meysydd sydd eu hangen.

Beth bynnag fo'ch rheswm dros wirfoddoli, cewch eich helpu drwy gydol eich profiad gwirfoddoli a gobeithio y cewch lawer o hwyl ar hyd y daith.

Advertise with us