Gwasanaethau TG, Llyfrgell a Chyfryngau y Brifysgol
Mae adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol dyn darparu gwasanaethau TG, llyfrgell a chyfryngau i ddiwallu anghenion ymchwil, dysgu ac addysgu myfyrwyr a staff.
- Llyfrgelloedd a TG modern, hyblyg
- Mynediad hawdd at adnoddau gwybodaeth print ac ar-lein
- Bron i 2,500 o leoedd astudio ar gyfer unigolion a grwpiau
TG
Cewch ragor o wybodaeth am gysylltu â rhwydweithiau'r Brifysgol, cofrestru dyfeisiau symudol, eich cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol a gwasanaethau TG Prifysgol Caerdydd
Angen cymorth TG?
Cysylltwch â Desg Gwasanaeth TG y Gwasanaethau Gwybodaeth:
- Ffôn: +44 (0)29 208 74487
- E-bost: insrvConnect@cardiff.ac.uk
Neu ewch i'r Clinig TG ar Lawr 1af Undeb y Myfyrwyr, ac yng Nghanolfan Astudio Julian Hodge.
Llyfrgelloedd
Lleolir llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd ym mhob rhan o'r campws, gan wasanaethu pob un o'r 27 o ysgolion academaidd. Cewch ragor o wybodaeth am lyfrgelloedd Caerdydd yn cardiff.ac.uk/insrv/libraries.
Angen Cyngor a Chymorth o ran Llyfrgelloedd?
Ewch i'r ddesg ymholiadau yn unrhyw un o lyfrgelloedd y Brifysgol.
Bydd staff arbenigol penodedig yn barod i'ch helpu gydag unrhyw ymholiad gan gynnwys defnyddio ein casgliadau, gwasanaethau llyfrgell a'r gwasanaeth sgwrsio rhithwir ar-lein, 'Ask a Librarian Live'.
Cewch ragor o wybodaeth yn www.cardiff.ac.uk/insrv/libraries/locations.



