Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Gwasanaethau a gaiff eu Rhedeg gan Fyfyrwyr

Grwpiau myfyrwyr yw'r Gwasanaethau a gaiff eu Rhedeg gan Fyfyrwyr sy'n dod ynghyd i ddarparu gwasanaethau i fyfyrwyr eraill a chymuned leol Caerdydd.

Mae'r myfyrwyr sy'n ymwneud â'r cymdeithasau hyn yn rhoi'n wirfoddol o'u hamser fel arfer i drefnu prosiectau, digwyddiadau neu wasanaethau ac maent bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â hwy.

Cymdeithas RAG

Ystyr RAG yw Codi a Rhoi(Raising and Giving) a dyna'n union beth y mae gwirfoddolwyr RAG Caerdydd yn ei wneud.

Ond nid dim ond codi arian i elusennau yw diben RAG. Dyma un o gymdeithasau mwyaf gweithredol a chyfeillgar Undeb Myfyrwyr Caerdydd ac mae'n rhan o sefydliad myfyrwyr cenedlaethol sy'n ymroi i godi arian at elusennau lleol a chenedlaethol.

Ei nod yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, a'r byd ehangach.

Cysylltwch â RAG i gael rhagor o wybodaeth: rag@cf.ac.uk

Cymdeithas ShAg

Grŵp Ymwybyddiaeth o Iechyd Rhywiol Caerdydd yw ShAg sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar sail wirfoddol

Os ydych am i rywun wrando ar bryderon eich bywyd carwriaethol neu ofnau am feichiogrwydd, neu gael gwybodaeth am heintiau rhywiol, neu ddarparu condomau am ddim - mae rhywun wrth law i helpu.

Mae eu canolfan galw heibio ar agor yn yr Undeb ar brynhawn dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 12pm a 4pm, yn darparu

  • condomau
  • taflenni
  • chyngor cyfeillgar i unrhywun sydd ei angen

hefyd mae yna fwced ShAg y tu allan i Swyddfa ShAg lle gallwch gasglu condomau yn ddisylw.

Cysylltwch â ShAg i gael rhagor o wybodaeth.

Llinell Nos

Mae'r Llinell Nos yn wasanaeth atgyfeirio sy'n gwrando a rhoi gwybodaeth yn gyfrinachol a heb farnu neb, a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr.

Mae ar agor o 8pm tan 8am mor aml â phosibl, gan gynnig gwasanaeth ar y ffôn a gwasanaeth galw heibio pan nad yw cyfleusterau eraill y brifysgol ar gael.

Nid oes rhaid i chi fod mewn argyfwng i'w ffonio – weithiau y cyfan sydd arnom ei angen yw'r cyfle i rannu ein gofidiau â rhywun cyfeillgar sy'n fodlon gwrando. Mae gan y bobl yn nhŷ'r llinell nos lu o wybodaeth wahanol, felly os ydych am wybod rhywbeth sy'n ymwneud â'r brifysgol neu ardal Caerdydd, gwnânt eu gorau i'ch helpu. Ydych chi am gael pizza am hanner nos? Bydd y Llinell Nos yn gwybod ble i fynd. Yn ogystal â hyn, maent hefyd yn darparu condomau am ddim.

Ewch i cardiffnightline.com i gael rhagor o wybodaeth. Llinell gymorth y Llinell Nos: 02920 870 555 8pm- 8am

Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd

Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd yn un o’r grwpiau gwirfoddoli mwyaf i fyfyrwyr ym Mhrydain.

Advertise with us