Bywyd Ôl-raddedig
Mae bron 6,000 o ôl-raddedigion yng Nghaerdydd sy'n astudio drwy gydol y flwyddyn
Fel myfyriwr ôl-raddedig, efallai y byddwch yn gwneud gradd a ddysgir neu radd ymchwil, yn rhan amser neu'n llawn amser. Efallai eich bod yn newydd i Gaerdydd neu'n parhau eich astudiaethau yn y Brifysgol.
Yr hyn sy'n sicr yw y bydd eich dull astudio yn wahanol i'ch gradd israddedig ac y bydd angen i chi weithio drwy gydol y flwyddyn ar gyfer eich gradd yn ôl pob tebyg.
Canolfan y Graddedigion
Partneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yw Canolfan y Graddedigion, sy'n gyfleuster penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig a staff. Mae wedi'i lleoli ar drydydd llawr Adeilad yr Undeb, ac mae ar agor tan hanner nos saith diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn a'r rhan fwyaf o wyliau banc.
Yn ogystal â darparu cyfleusterau gwych i'ch cynorthwyo gyda'ch astudiaethau, mae Canolfan y Graddedigion hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a rhaglenni hyfforddi. Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn rhan o grŵp llywio'r Ganolfan a chaiff gwirfoddolwyr eu recriwtio bob blwyddyn - cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.
Mae gan yr undeb swyddogion myfyrwyr all gynrychioli eich barn, yn yr Undeb ac yn y Brifysgol, a'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch amser yng Nghaerdydd.
Maent yn cael eu cynorthwyo gan Swyddog Cymorth Ôl-raddedigion rhan amser a gaiff ei ethol bob blwyddyn - peidiwch ag anghofio pleidleisio yn yr etholiadau! I drefnu cyfarfod ag unrhyw un ohonynt, ewch i'r ardal sabothol ar drydydd llawr yr Undeb.
Cysylltwch â'ch Swyddog Cymorth Ôl-raddedigion:



