Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Help a Chyngor

Cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol am ddim ar amrywiaeth o faterion yn y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli (ARC).

Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n dod i Gaerdydd yn cael unrhyw broblemau yn ystod eu bywyd fel myfyriwr. Caiff eraill rhai anawsterau a bydd angen help arnynt i'w datrys.

Dyma lle gall y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli (ARC) helpu, gan gynnig cyngor drwy sesiynau galw i mewn, apwyntiadau, negeseuon e-bost a dros y ffôn

Gallwch gael cyngor cyffredinol a gwybodaeth am amrywiaeth o bethau megis materion academaidd, materion defnyddwyr, cyflogaeth, gwasanaethau iechyd, tai, materion ariannol, cyllid myfyrwyr a llawer mwy.

Mae ARC hefyd yn cynnig cyngor, cynrychiolaeth ac eiriolaeth ar gyfer materion academaidd megis gweithdrefnau academaidd, apeliadau academaidd, cwynion, disgyblu, arfer annheg, cymhwyster i ymarfer a Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol.

ddydd Llun
i
dydd Gwener
10am – 3pm
Rhwng 1pm a 3pm ar ddydd Iau

Mae tîm ARC yn gweithio'n agos gyda'ch swyddogion sabothol etholedig:

Chris Davies Swyddog Lles, Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Ffôn: 02920 781422
Sam Reid Materion Academaidd a Materion y Brifysgol Ffôn 02920 2078 1506

Mae ARC yn aelod o adviceUK

Advertise with us