Myfyrwyr Gofal Iechyd
Mae 'Lolfa IV' yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol Parc y Mynydd Bychan.
Fe'i lleolir ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionnydd, gyferbyn â'r adeilad Cochrane newydd sbon ar Gampws Parc y Mynydd Bychan, ac mae ganddi draddodiad cyfoethog ac enwog.
Bydd yr aelod o staff llawn amser yno, Sally Taylor, ar gael bob dydd i'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a all fod gennych.
'Lolfa IV'
Cysylltwch â Sally yn TaylorS10@cardiff.ac.uk
Mae nifer o wasanaethau ar gael yn Lolfa IV gan gynnwys siop goffi, deli a'r bar digwyddiadau lle cynhelir digwyddiadau'r timau chwaraeon Gofal Iechyd ar ddydd Mercher a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Gellir hefyd archebu'r lleoliad cyfan i'w ddefnyddio'n breifat drwy Swyddfa Arlwyo'r Brifysgol.



