Dod o Hyd i Swydd
Os ydych yn chwilio am swydd a fydd yn cyd-fynd â'ch astudiaethau, ewch i'r Siop Swyddi.
Mae'r Siop Swyddi yn wasanaeth gwych am ddim sy'n ei gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr ddod o hyd i waith rhan-amser neu waith dros dro i gyd-fynd â'u hastudiaethau.
Mae'r Siop Swyddi yn cynnig gwasanaeth cyflwyno i gyflogwyr lleol, swyddi dros dro yn y Brifysgol, swyddi yn Undeb y Myfyrwyr, swyddi rhan-amser rheolaidd neu waith achlysurol. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael negeseuon e-bost rheolaidd i roi gwybod i chi pa waith sydd ar gael.
I gofrestru gyda'r Siop Swyddi:
ewch i lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gan fynd â'ch cerdyn UCM a'ch pasbort gyda chi.
Mae pob swydd yn talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i oedolion yr awr, o leiaf, waeth beth fo'ch oedran (yn codi i £6.08 ym mis Hydref 2011).



