Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Dod o hyd i

Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, sef asiantaeth gosod tai yr Undeb ei hun, yw'r lle cyntaf i edrych i ddiwallu eich holl anghenion tai.

Rydym yn cynnig stop un siop i fyfyrwyr sydd am rentu tai o safon gan landlordiaid sydd ag enw da. Yn eiddo i Undeb y Myfyrwyr ac wedi'i redeg gan yr Undeb, darperir Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd yn rhad ac am ddim.

Mae asiantaethau gosod tai eraill yn codi ffi ar fyfyrwyr am ddod o hyd i dŷ, sy'n golygu y gall rhentu fod yn gostus. Caiff pob tŷ ei archwilio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a'i fod mewn cyflwr da.

Mae ein llyfryn Canllaw i Fyfyrwyr llawn ar gael o'r swyddfa neu o'r adran lawrlwytho yn cardiffstudentletting.com.

Ar Agor

Dydd Llun i ddydd Gwener drwy gydol y flwyddyn
Cardiff Student Letting Y Llawr Gwaelod Adeilad Undeb y Myfyrwyr
Ffôn: 02920 781 525 E-bost: conwayE@cardiff.ac.uk

Follow Cardiff Student Letting on Facebook

Awgrymiadau Defnyddiol wrth Chwilio am Dŷ

  • Peidiwch â brysio! Bydd gan Wasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd dai newydd yn dod i mewn drwy gydol y flwyddyn felly peidiwch â mynd i banig.
  • Lluniwch restr wirio o'r hyn sydd ei angen arnoch o'ch llety; rhent, lleoliad, cyfleusterau, cyflwr ac ati.
  • Ewch Wasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd yn gyntaf. Mae gennym lawer iawn o dai o safon ar gael ac nid ydym yn codi unrhyw ffioedd asiantaeth.
  • Gofynnwch am gael gweld y contract cyn i chi ei lofnodi ac os byddwch mewn unrhyw amheuaeth, gofynnwch i'r Ganolfan Cyngor a Chynrychiolaeth edrych drosto cyn i chi ei lofnodi.
  • Sicrhewch eich bod yn hapus gyda phwy y byddwch yn byw gyda nhw. Unwaith y byddwch wedi llofnodi'r denantiaeth, rydych wedi trefnu cytundeb sy'n gyfreithiol gyfrwymol na allwch ei dorri.
Advertise with us