Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Democratiaeth

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn sefydliad aelodaeth democrataidd a chynrychioliadol.

Beth mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu bod eich Undeb yn gwneud ei orau i gynrychioli'r myfyrwyr ac yn gweithredu'n annibynnol ar y Brifysgol yn ôl eich anghenion.

Caiff eich Undeb ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr a'n nod yw rhoi myfyrwyr yn gyntaf.

Drwy gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd byddwch yn awtomatig yn aelod o Undeb y Myfyrwyr. TGolyga hyn fod holl wasanaethau Undeb y Myfyrwyr ar gael i chi, bod gennych yr hawl i bleidleisio ac i ddweud eich dweud a bod system gymorth ar gael i chi ar flaenau eich bysedd.

Mae Cyngor y Myfyrwyr, sef corff llywodraethu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd. Mae'n dwyn eich cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig i gyfrif, ac yn fforwm lle y gall myfyrwyr gyfrannu at y broses barhaus o sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithio er budd y corff myfyrwyr.

Chyngor y Myfyrwyr

Etholiadau

Cynhelir yr etholiadau fel y gall myfyrwyr bleidleisio dros eu cyd-fyfyrwyr i'w cynrychioli ac i redeg Undeb y Myfyrwyr fel y Pwyllgor Gweithredol

Ni allwch osgoi'r etholiadau pan fyddant yn digwydd!

Mae cystadleuaeth gref ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi, ac felly bydd yr ymgeiswyr yn gwneud eu gorau glas i ennyn eich sylw ac i'ch ysbrydoli i bleidleisio.

Bydd y campws yn fwrlwm o brysurdeb wrth i ymgeiswyr godi posteri ar waliau, gwisgo’u timau ymgyrchu mewn gwisgoedd ffansi a chyflwyno cyhoeddiadau byr mewn darlithoedd.

Eich Etholiadau

Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd hawl ddemocrataidd i bleidleisio yn etholiadau'r Undeb.

Os oes diddordeb gennych i sefyll mewn etholiad neu os ydych am wybod sut i bleidleisio, ewch i gael golwg ar ein gwefan yn cardiffstudents.com.

Cymdeithasau

Cyrff sy'n cael eu harwain gan fyfyrwyr sy'n cyfathrebu'n effeithiol â grwpiau rhyddid a grwpiau lleiafrifol allweddol ac yn eu cynrychioli.

  • Cymdeithas Myfyrwyr Gofal Iechyd
  • Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Cymdeithas Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol (LGBT+)
  • Cymdeithas Myfyrwyr Hŷn
  • Cymdeithas Ôl-raddedigion
  • Cymdeithas Myfyrwyr ag Anableddau
  • Y Gymdeithas Gymraeg
  • Cymdeithas y Merched

Mae Cymdeithasau'n rhoi'r cyfle i chi leisio'ch barn, cymryd rhan mewn ymgyrchoedd a chymdeithasu gydag unigolion tebyg.

Mae gan bob Cymdeithas bwyllgor sy'n cael ei ethol gan yr aelodau, a Llywydd sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr.

Mae aelodaeth am ddim ac yn ddienw, a gallwch gymryd rhan drwy wneud unrhyw beth o dderbyn e-byst i fod yn aelod gweithredol o'r pwyllgor.

Gallwch ymuno ag unrhyw un o'r Cymdeithasau canlynol drwy glicio yma.

Advertise with us