Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Cynrychiolwyr Academaidd

Myfyrwyr sy'n eich cynrychioli i wneud eich cwrs yn well.

Caiff Cynrychiolwyr Academaidd eu hethol i gynrychioli barn cyd-fyfyrwyr ar eu cyrsiau a bod yn bwynt cyswllt iddynt mewn paneli myfyrwyr-staff rheolaidd.

Ymhlith y materion a drafodir mae ansawdd y darlithoedd, llyfrgelloedd, argaeledd llyfrau testun, cyfleusterau labordy neu gyfrifiadura, gweithdrefnau asesu a therfynau amser, ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol i astudiaethau academaidd neu'ch Ysgol.

Gallwch wneud gwahaniaeth mawr drwy wneud y canlynol!

  • Cymryd amser i ethol eich Cynrychiolydd Academaidd gan mai ef sy'n eich cynrychioli chi.
  • Darganfod pwy yw eich Cynrychiolydd Academaidd - fel arfer mae ganddo hysbysfwrdd.
  • Anfon e-bost at eich Cynrychiolydd Academaidd neu siarad ag ef pan fydd gennych safbwyntiau neu syniadau
  • Gofyn i'ch Cynrychiolydd Academaidd am yr hyn a drafodwyd yn y panel myfyrwyr/staff diwethaf.

Caiff hyfforddiant ei ddarparu gan Undeb y Myfyrwyr a'i gydgysylltu gan y Swyddog Materion Academaidd a Materion y Brifysgol. Darperir sesiynau drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â llawlyfrau i roi gwybodaeth i gynrychiolwyr.

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn ffordd wych i ddod i adnabod pobl, gwella eich CV, datblygu sgiliau rhyngbersonol, dysgu mwy am y Brifysgol a dweud eich dweud.

Am ragor o wybodaeth e-bostwch Sam Reid, eich Swyddog Materion Academaidd a Materion y Brifysgol.

Advertise with us