Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Cyn i Chi Ddod i Gaerdydd

Llongyfarchiadau! Yn fuan iawn, byddwch yn rhan o'r gymuned myfyrwyr yng Nghaerdydd.

Dewch i adnabod Undeb y Myfyrwyr a'r hyn y gallwn ei wneud i chi.

Dysgwch sut rydym yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol y flwyddyn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth sy'n digwydd.

Cawn ein rhedeg gan fyfyrwyr a gaiff eu hethol gan fyfyrwyr.
Dyma lle cewch y parti gorau! Archebwch eich tocynnau nawr

Pan Fyddwch yn Cyrraedd Caerdydd

Rydych wedi cyrraedd Caerdydd, wedi ffarwelio â'ch rhieni ac eisoes wedi penderfynu rhoi'r gorau i ddadbacio. Dyma'ch cyfle i ddod i adnabod eich cartref newydd, cwrdd â ffrindiau gwych newydd, a dod i wybod beth y gallwn ei wneud i'ch helpu chi yma yn Undeb y Myfyrwyr.

Pan fyddwch yn cyrraedd, byddwch am ymweld ag Undeb y Myfyrwyr cymaint â'r ddinas ei hun.

Mae gennym wybodaeth ddefnyddiol am gofrestru gyda'r Brifysgol yn ogystal â phethau pwysig eraill fel cael mynediad i rwydwaith cyfrifiaduron y Brifysgol.

Yn bwysicaf oll, rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas

Bywyd yn y Brifysgol

Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf ymhlith blynyddoedd gorau eich bywyd ac mae llawer i'w wneud yn ystod y cyfnod byr hwnnw.

Rydych bellach yn aelod swyddogol o Undeb y Myfyrwyr. Gallwch leisio eich barn ar hyn a wnawn yng Nghyngor y Myfyrwyr neu drwy bleidleisio i yn yr etholiadau.

Gwyddom y gall hwn fod yn gyfnod ansicr i rai. Rydym yn rhedeg ein gwasanaeth cyngor annibynnol ein hunain felly byddwch yn cael y gofal gorau.

Mae hefyd gennym ein hasiantaeth gosod tai ein hunain i'ch helpu i ddod o hyd i dŷ pan fyddwch yn gadael Neuaddau Preswyl.

Oes angen swydd arnoch sy'n cyd-fynd â'ch astudiaethau? Ewch i'r Siop Swyddig.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant sy'n sicrhau bod eich CV yn ennyn sylw pan fyddwch yn graddio.

Neu gallwch ddod yn wirfoddolwr a helpu mewn un o fwy na 35 o brosiectau lleol gwahanol.

Mae mwy i fywyd yn y Brifysgol nag astudio am 24 awr y dydd. Mae clybiau a chymdeithasau yn ffordd wych o gwrdd â phobl debyg neu ddechrau hobi newydd.
Ac os ydych am gael hwyl, ni sy'n cynnig yr adloniant goraut yn y ddinas!

Ar ôl Graddio

Mae'n siŵr bod graddio yn teimlo ymhell i ffwrdd ar hyn o bryd, ond nid yw byth yn rhy gynnar i feddwl am fywyd ar ôl y Brifysgol.

Mae'r farchnad swyddi yn lle hynod gystadleuol ar hyn o bryd.

Mae eich cyfnod yn y brifysgol yn gyfle gwych i roi hwb i'ch CV drwy ychwanegu cyrsiau, sgiliau a gwaith gwirfoddoli.

Mae llawer o fyfyrwyr yn mwynhau eu hunain gymaint yng Nghaerdydd fel eu bod yn penderfynu aros ar ôl y Brifysgol.

Mae gennym gyngor gwych am fyw yn y ddinas ar ôl eich cyfnod fel myfyriwr.

Advertise with us