Close
14151617181920
21222324252627
28293001020304

Siopa


Siop yr Undeb

Mae Siop yr Undeb yng nghanol yr adeilad ar y llawr 1af, ac mae’n cynnig ystod eang o eitemau, o bethau hanfodol i’r pethau mwy moethus.

Mae’r rhain yn cynnwys brechdanau, byrbrydau, anrhegion a chardiau, cylchgronau a phapurau newydd, diodydd, ffrwythau ffres, tybaco a chyfleusterau i roi arian ar eich ffôn. Mae hefyd amrywiaeth eang o gynnyrch Masnach Deg a bwydydd iachus. Cymerwch olwg ar y dewis newydd o ddillad Prifysgol Caerdydd ar gyfer dynion a merched, o grysau-T i siwmperi, neu gallwch eu prynu ar-lein yn www.cardiffstudents.com

Rydym yn derbyn pob prif gerdyn credyd/debyd ac rydym yn cynnig gwasanaeth arian yn ôl.

Amseroedd Agor
8.30am – 6.30pm (dydd Llun i ddydd Gwener)
12am – 4pm (dydd Sadwrn)
(Gall yr amseroedd newid y tu allan i’r tymor)

Siop TG

Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi uno i gynnig y cynnyrch cyfrifiadurol, y reprograffeg a’r deunydd ysgrifennu gorau am brisiau isel i fyfyrwyr o dan yr un to. Nid oes yn rhaid i chi boeni am brynu cyfarpar cyn dod i Gaerdydd oherwydd mae popeth sydd ei angen arnoch yn y siop TG a gall eich cysylltu â rhwydwaith diwifr y Brifysgol. Gorau oll, gall staff y Siop TG wasanaethu ac atgyweirio eich cyfrifiadur ac maent wastad ar gael i ateb eich cwestiynau, felly nid oes rhaid i chi fod yn hen law cyfrifiadurol!

Nid oes rhaid i chi wario eich holl arian ar gyfer y tymor cyntaf ar liniadur neu gyfrifiadur oherwydd maent yn cynnig cynlluniau talu sy’n addas i bawb, felly gallwch ledaenu’r gost. Am gyfnodau byr, mae gwasanaeth rhentu hefyd ar gael ynghyd â’n gwasanaeth rhentu ffôn symudol 3G ar gyfer mynediad i’r rhyngrwyd.

Mae croeso i chi gael golwg ar eu gwefan yn theitshop.cardiffstudents.com am eu prisiau.

Blackwell

Mae Blackwell wedi bod yn cyflenwi llyfrau academaidd ers dros 127 o flynyddoedd. Ceir staff arbenigol yn y siop yng Nghaerdydd sy’n barod i roi cyngor i chi ar ystod eang o werslyfrau a chyhoeddiadau. Maent yn gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau eu bod yn darparu’r teitlau a’r gwasanaethau gorau a’r rhai mwyaf priodol, gan eich helpu i ddysgu. Cofrestrwch i gael y cerdyn Blackwell Reward a dechreuwch gasglu pwyntiau i arbed arian. Gofynnwch yn y siop am ragor o fanylion. Po fwyaf y gwariwch y mwyaf yr arbedwch! Mae Blackwell yn deall sefyllfa ariannol fregus myfyrwyr, felly maent wedi creu cynllun ail law sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr arbed hyd at 40% ar bris manwerthu’r llyfr wrth brynu gwerslyfr ail law. Mae Blackwell hefyd yn cynnig ystod eang o eitemau sy’n hanfodol i fyfyrwyr, o gardiau i ddeunydd ysgrifennu, anrhegion a chyfarpar meddygol.

Mae dros 3 miliwn o lyfrau ar gael ar-lein yn www.blackwell.co.uk, felly gallwch archebu’r llyfrau sydd eu hangen arnoch 24 awr y dydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis yr eitem a phenderfynu sut rydych am i’r eitem gael ei dosbarthu. Bellach, gyda’r dewis i roi eitem Ar Gadw Ar-lein a Chasglu yn y siop, gallwch fanteisio ar ein prisiau ar-lein gwych heb unrhyw gostau cludo a gallwch ymlacio am fod yr eitem yn aros amdanoch.