Beth yw Undeb y Myfyrwyr?
Yn syml, sefydliad sy'n hyrwyddo buddiannau myfyrwyr ydym ni.
Cawn ein harwain gan grŵp o fyfyrwyr a etholwyd gennych i sicrhau bod yr Undeb yn darparu'r gwasanaethau rydych am eu cael.
Cynorthwyir y swyddogion etholedig gan staff parhaol, yr oedd llawer ohonynt yn fyfyrwyr yng Nghaerdydd eu hunain.
Rydym hefyd yn cyflogi tîm anferth o staff myfyrwyr ym mhob rhan o'r adeilad ac yn darparu cyrsiau datblygu i wella eich CV pan fyddwch wedi graddio.
Yn wahanol i'r arfer, rydym yn elusen ac yn gwmni. Caiff unrhyw elw a wneir ei dalu yn ôl i'r gwasanaethau am ddim a ddarperir gennym i fyfyrwyr ac i'r cymdeithasau a'r clybiau chwaraeon.
Cewch ragor o wybodaeth ar-lein ar brif wefan yr Undeb, yn cardiffstudents.com



