Sut ydw i'n cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd?
Sut ydw i'n cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd?
Dylai pob myfyriwr ddefnyddio'r system gofrestru ar-lein i gofrestru a lle y bo'n berthnasol, talu neu wneud trefniadau i dalu ffioedd dysgu. Mae'n rhaid i chi fynd i ddigwyddiad Cofrestru/sesiwn sefydlu eich Ysgol a chadarnhau manylion eich rhaglen er mwyn cofrestru'n llawn fel myfyriwr.
Sut y byddaf yn gwybod pryd i gofrestru?
Cysylltir â chi tua thair wythnos cyn dyddiad dechrau eich rhaglen. Bydd y system gofrestru ar-lein ar gael o'r dyddiad a nodir yn y llythyr a/neu'r e-bost a anfonir atoch.
A fydd angen i mi gofrestru erbyn dyddiad penodol?
Bydd! Dim ond am gyfnod penodol, sy'n gysylltiedig â dyddiad dechrau eich rhaglen, y byddwch yn gallu cofrestru ar-lein. Bydd y dasg gofrestru ar gael tua thair wythnos cyn i'ch rhaglen ddechrau a chysylltir â chi pan fydd y dasg ar gael i chi ei defnyddio.
Dylech geisio cofrestru cyn cyrraedd Caerdydd. Fodd bynnag, byddwch yn gallu defnyddio cyfrifiadur mewn nifer o leoliadau cofrestru â chymorth, a chael help gydag unrhyw broblemau sydd wedi eich atal rhag cofrestru ar-lein ymlaen llaw.
Mae popeth y mae angen i chi ei wybod am gofrestru ar gael yma.



