Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion a phopeth arall

Gall bywyd wibio heibio pan fyddwch yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, ac os na fyddwch yn cael saib o bryd i'w gilydd i weld beth sy'n digwydd, gallech golli cyfle.

Ond peidiwch â phoeni, byddwn yn ei gwneud llawer yn haws i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf bob wythnos. Dyma rai pethau i gadw golwg amdanynt:

E-bost am Ddigwyddiadau Crynodeb wythnosol o'r gweithgareddau, y straeon a'r bargeinion diweddaraf yn yr Undeb, o gerddoriaeth fyw i ddigwyddiadau cymdeithasau.

Papur Newydd Gair Rhydd:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu copi o gair rhydd bob dydd Llun ar eich ffordd i ddarlithoedd. Caiff ei ysgrifennu a'i olygu gan fyfyrwyr Caerdydd, ac mae'n cynnwys newyddion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, materion myfyrwyr, digwyddiadau lleol, chwaraeon ac erthyglau nodwedd.

Advertise with us