Eich Swyddogion Etholedig
Marcus Coates-Walker
Llywydd
Fel Llywydd, rwy'n gyfrifol am y ffordd y mae'r Undeb yn gweithredu, sut mae'r tîm o swyddogion etholedig yn cydweithio a sicrhau'r profiad gorau posibl i chi yn ystod eich amser yng Nghaerdydd.
Mae pob un ohonoch yn rhan hollbwysig o waith yr Undeb, felly mae croeso i chi alw heibio i siarad â phob un ohonom. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â chynifer ohonoch â phosibl dros y flwyddyn nesaf.
Nicholas Matthew
Swyddog Cyllid a Masnach
Nick ydw i. Fi yw'r swyddog Cyllid a Masnach. Mae fy swydd yn cwmpasu amrywiaeth eang o bethau, ond yn y bôn mae'n ymwneud ag arian! Ar wahân i sicrhau y caiff grant bloc yr Undeb ei ddosbarthu'n briodol, rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda'r uwch reolwyr i roi hwb i sectorau manwerthu, digwyddiadau a gwasanaeth yr Undeb. Yn ogystal â'r elfen fasnachol, rwyf hefyd yn cydweithio'n agos â'r swyddog amgylchedd a moeseg rhan-amser fel rhan o'm swydd i sicrhau y caiff yr Undeb ei ddatblygu mewn modd gwyrdd ac ecogyfeillgar. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw beth, dewch i'm gweld ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr.
Harry Newman
Swyddog Cymdeithasau
Helo, fi yw Harry, eich Swyddog Cymdeithasau. Mae gan Urdd y Cymdeithasau dros 150 o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw sy'n amrywio o'r difrifol i'r hwyliog, a'm gwaith i yw eu cefnogi a'ch helpu i ddod o hyd i'r un cywir i chi! Yn ogystal â hynny, rwy'n trefnu digwyddiadau mawr yn yr Undeb fel Go Global, sy'n dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae gen i rai syniadau mawr eleni, felly dewch i'm gweld ar y trydydd llawr a chael gwybod beth y gall eich swyddogion etholedig ei wneud i chi.
Christopher Davies
Swyddog Lles a Chyfathrebu
Helo, Chris ydw i. Fi yw eich Swyddog Lles a Chyfathrebu newydd. Fy ngwaith i yw mynd ati'n rhagweithiol i'ch hyrwyddo a'ch cynrychioli chi fel myfyrwyr a'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch profiad fel myfyriwr drwy ofalu am eich lles. Mae gan yr Undeb wasanaethau ardderchog sydd yma i'ch cefnogi ac rwy'n bwriadu eich helpu chi, ein haelodau, i gael budd o'r rhain drwy gydol y flwyddyn. Mae gen i rai syniadau gwych i gyfleu'r hyn y gall eich Undeb ei wneud i chi a gobeithio, drwy weithio gyda chi'r myfyrwyr, y cyngor, y Brifysgol ac eraill, gallaf sicrhau mai'r flwyddyn hon yw eich blwyddyn orau yng Nghaerdydd.
Os bydd gennych unrhyw broblem o ran lles, dewch i'm gweld ar y trydydd llawr, a byddwn yn ei datrys i chi; dyna yw gwaith eich swyddogion etholedig.
Oliver Smith
Pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr a Golygydd gair rhydd
Helo, Olly ydw i. Fi yw Pennaeth newydd Cyfryngau Myfyrwyr a golygydd gair rhydd. Fy ngwaith i yw rhedeg cyfryngau myfyrwyr llwyddiannus Caerdydd gan gynnwys y papur newydd wythnosol i fyfyrwyr, gair rhydd, ein cylchgrawn 'Quench' a gyhoeddir ddwywaith y mis, 'Xpress Radio' a 'Cardiff Union TV'. Rwyf wedi gweithio ym maes cyfryngau myfyrwyr am y ddwy flynedd diwethaf yng Nghaerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at sicrhau cynnwys rhagorol ym mhob agwedd ar gyfryngau myfyrwyr. Mae'n amser gwych i gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr, felly dewch draw i Barti Recriwtio'r Cyfryngau ar ôl Wythnos y Glas, neu beth am alw heibio i'r swyddfa ar y pedwerydd llawr i gyfarfod â'r tîm!
Sam Reid
Swyddog Materion Academaidd a'r Brifysgol
Helo, Sam ydw i ac rwy'n cynrychioli myfyrwyr Caerdydd ar faterion academaidd ac yn helpu i gynnal cydberthnasau cryf â'r Brifysgol.
Sarah Halpin
Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd
Helo bawb, Sarah ydw i. Fi yw eich Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd. Mae gennym y 3edd ysbyty addysgu fwyaf yn y DU, felly does dim syndod bod gennym tua 5,000 o fyfyrwyr gofal iechyd yma yng Nghaerdydd!
Fy ngwaith i yw gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yng nghampws parc y Mynydd Bychan yn cael y profiad gorau posibl ynghyd â'r myfyrwyr ym Mhlas-y-Parc. Boed hynny drwy gynrychiolaeth academaidd, lles neu gymdeithasol, rwyf yma i wrando ar eich barn a'ch syniadau.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn nesaf felly dewch i gymryd rhan drwy alw heibio ar drydydd llawr yr Undeb i gyfarfod â mi a gweddill y tîm.
Ollie Devon
Llywydd yr Undeb Athletau
Helo, Ollie ydw i. Fi yw Llywydd yr Undeb Athletau! Rwy'n gyfrifol am ddatblygu a darparu dros 60 o Glybiau'r Undeb Athletau a rhaglen IMG anferth. Rwyf hefyd yn gyfrifol am amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, yn bennaf Varsity! Mae cymaint o bethau y gallwch gymryd rhan ynddynt fel aelod o'r Undeb Athletau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â chlwb ac yn gwneud y gorau o'r hyn y gall chwaraeon yng Nghaerdydd ei gynnig. Dewch i'm swyddfa ar y Trydydd Llawr i gael unrhyw help neu gyngor sydd ei angen arnoch, neu sgwrs am unrhyw beth sy'n ymwneud â chwaraeon!



