Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Byw yng Nghaerdydd

Treth Gyngor

Os byddwch yn rhentu llety ar ôl i chi raddio, cofiwch y bydd angen i chi ddechrau talu treth gyngor. Mae'n werth trefnu hyn cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn neu gallech gael bil mawr iawn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth. Mae'n werth cofio hefyd os mai chi yw'r unig berson nad yw'n fyfyriwr mewn tŷ a rennir, dim ond chi sy'n gyfrifol am dalu'r bil treth gyngor. Y fantais yw y gallech fod yn gymwys i gael Gostyngiad Person Sengl o 25% oddi ar y bil os byddwch yn byw ar eich pen eich hun neu mewn tŷ llawn myfyrwyr!

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf yn cardiff.gov.uk

Advertise with us