Rydym yn cynnal pythefnos o hwyl i'r glas – Prynwch Nawr

Rhoi hwb i'ch CV

Does dim dwywaith amdani fod y farchnad swyddi yn lle hynod gystadleuol ar hyn o bryd.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg yr Uned Datblygu Myfyrwyr sy'n cynnig cyrsiau i wella eich sgiliau. Gallwch ennill tystysgrifau datblygiad proffesiynol a ardystir gan y Brifysgol ym maes Cyfathrebu, Effeithiolrwydd Personol ac Arweinyddiaeth. Cynigir cyrsiau hefyd mewn Cymorth Cyntaf, Iaith Arwyddion Sylfaenol, Camau at Ragoriaeth a Rheoli Straen ymhlith pethau eraill.

Mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sy'n sefyll allan. Defnyddiwch eich amser yn y Brifysgol i roi hwb i'ch CV.

Fel arall, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cael profiad gwaith a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ar yr un pryd. Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd yn cynnig prosiectau sy'n amrywio o addysg, iechyd meddwl, a phlant ac oedolion ag anableddau dysgu. Mae bod yn wirfoddolwr yn edrych yn wych ar eich CV ac mae'n brofiad gwerth chweil.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn cardiffstudents.com/training a svcardiff.org

Advertise with us