Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Gallwch barhau i fod yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd hyd yn oed ar ôl i chi raddio.
Mae dros 100,000 o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn fyd-eang.
Mae'r Is-adran Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr yn gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn cael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghaerdydd, yn ogystal â helpu pobl i
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gwerthfawrogi eu cynfyfyrwyr a hoffent gadw mewn cysylltiad â chymaint ohonoch â phosibl.
Mae'n werth ymuno â'r gymuned ar-lein pan fyddwch yn graddio fel y gallwch wneud y canlynol:
- Diweddaru eich proffil personol a rhannu gwybodaeth â chynfyfyrwyr eraill
- Chwilio am swyddi a rhwydweithio
- Dod o hyd i hen gyfeillion
- Ymuno â grwpiau trafod
- Cael gwybod am ddigwyddiadau ac aduniadau sydd ar y gweill ac archebu lle ar-lein
- Dysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd
- Dysgu sut y gallwch fod yn rhan o weithgareddau'r Brifysgol
Mwy o wybodaeth



